Polisïau
Rydym yn ysgol unigryw, fel yr unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Sir Caerffili. Anogir pob disgybl yn gryf i gyfathrebu trwy’r Gymraeg ac i fwynhau gweithgareddau allgyrsiol sydd yn dathlu defnydd yr iaith. Mae’n angenrheidiol bod rhieni yn flaengar wrth annog a chefnogi defnydd yr iaith cymaint â phosibl.
Gellir cefnogi disgyblion mewn sawl ffordd:
- ymaelodi a’r Urdd.
- Menter Iaith Caerffili.
- wrth wylio rhaglenni teledu a gwrando ar raglenni radio trwy’r iaith.
- darllen llyfrau a chylchgronau Cymraeg
- dysgu Cymraeg eich hunain.
Un o fanteision gwisg ysgol yw ei bod yn sicrhau fod pawb yn edrych yn drwsiadus gan osgoi tynnu sylw’n ormodol.
Mewn ymgais i wella’r cyflenwad o wisg ysgol mae’r ysgol wedi llunio cytundeb gyda Chyswllt Ysgol Trutex.
Mae Trutex yn gwmni sefydledig yn y busnes gwisg ysgol, ac mae ganddo brofiad helaeth yn darparu gwisg ysgol yn uniongyrchol i’r rhieni. Drwy ei wasanaeth Cyswllt Ysgol, gallwch brynu’r holl wisg ysgol, ac fel mantais ychwanegol, bydd y nwyddau yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i’ch cartref (neu at gyfeiriad penodedig). Gwelir manylion sydd yn benodol i’n hysgol ni yn y Llawlyfr Cyswllt Ysgol. Mae’r Llawlyfr Cyswllt Ysgol yn darparu eitemau o’n gwisg ysgol drwy gydol y flwyddyn, a hynny am brisiau cystadleuol, heb unrhyw gost ychwanegol. Mae’r POSTIO, y PACIO a’r DYCHWELIADAU yn rhad ac am ddim.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynghylch manylion penodol ein gwisg ysgol a gwybodaeth am feintiau, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Trutex. I gael y manylion, y rhif yw 01200 421206. Mae TRUTEX hefyd yn gwarantu y bydd 10% o bob eitem o’r wisg ysgol a brynir drwy’r Cyswllt Ysgol, yn cael ei drosglwyddo yn ôl i’r ysgol. Ein bwriad yw defnyddio’r arian hwn i ddarparu gwell cyfleusterau ar gyfer eich plentyn chi.
Gallwch eu prynu trwy’r mannau canlynol:
- Jansan Wear, Aberbargoed
- CC Sports, Bargoed
- Direct Mailing via TRUTEX
- Total Sporting Solutions, Caerffili
Grant Cynhaliaeth a Dillad
Os nad ydych wedi llenwi’r ffurflen briodol ar gyfer Grant Cynhaliaeth a Dillad yn barod, cewch un o’r ysgol.

Mae yna ragor o bolisïau ar gael isod, ac o'r ysgol os gofynnwch amdanynt.
Diogelu Plant
Cyfathrebu
Ffonau Symudol
Gwrth Fwlian
Perthnasoedd ac Ymddygiad
Polisi Lockdown
Presenoldeb
Cwricwlwm
Pontio
Cwyno
Offeryn Llywodraeth
CCTV
Diolegu Data
Mwy Abl a Thalentog
Hysbysiad Preifatrwydd
Diogelu Data
Rhyddid Gwybodaeth
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ymddygiad
Addysg Perthnasoedd ac Iechyd Rhyw
Adran Addysg Gorfforol
Anaf i’r Pen