LHDTC+

Rhywioldeb ac Iechyd Meddwl

Rhywioldeb yw’r ffordd mae person yn disgrifio teimladau rhywiol, emosiynol a chorfforol a’r ffordd maent yn teimlo at berson arall.

Efallai bydd person yn cael eu denu at eraill o’r un rhyw neu ryw gwahanol neu ddim yn teimlo unrhyw fath o atyniad rhywiol o gwbl. Mae pawb yn wahanol ac mae rhywioldeb yn cynnwys elfennau gwahanol.

Mae termau gwahanol ar gyfer tueddiadau gwahanol. Mae dolenni isod gyda mwy am y termau gwahanol – Young Minds & Stonewall.

Sut mae rhywioldeb yn effeithio ar iechyd meddwl?

Mae’r canlynol yn gallu effeithio ar iechyd meddwl:

  • Teimlo’n wahanol i eraill.
  • Unigolyn yn cael ei sterioteipio a rhoi mewn bocs.
  • Gwahaniaethu oherwydd rhywioldeb.
  • Bwlio a chael eu trin yn wahanol.
  • Ddim yn teimlo’n gyfforddus neu’n ddiogel i ddangos cariad at bartner yn gyhoeddus.
  • Teimlo’n ‘anweledig’ heb eraill o’ch gwmpas sydd yn meddwl/teimlo yn yr un ffordd.
  • Dim cefnogaeth oddi wrth bobl agos a phwysig e.e. teulu.
  • Ddim yn cael eu derbyn gan eraill gan gynnwys ffrindiau a theulu.
  • Pobl yn camlabelu rhywioldeb y person ifanc.

Mae’n gallu effeithio ar rywun hefyd os maen nhw’n gweld rhywun arall yn cael eu camdrin, profi gwahaniaethu (discrimination) neu’n cael profiadau negyddol. Dyma rai ffyrdd mae’n gallu effeithio ar rywun:

  • Ofni dod mas a beth fydd eraill yn dweud, meddwl ac ymateb.
  • Teimlo bod rhaid cuddio’u rhywioldeb.
  • Teimlo o dan bwysau i labelu’u rhywioldeb cyn gwybod o sicrwydd eu hun.
  • Drysu am rywioldeb.
  • Teimlo’r angen i newid rhywioldeb a bod yn berson gwahanol gydag hunaniaeth gwahanol.
  • Hunan-ymwybodol o gwmpas eraill.
  • Anhawster cwrdd gydag eraill gyda’r pwysau o deimlo bod angen datgelu rhywioldeb bob tro.
  • Teimlo’n unig ac yn ynysig.

Os ydych chi wedi bod yn teimlo’n bryderus neu’nd ddryslyd am eich rhywioldeb neu angen mwy o wybodaeth, beth gallwch chi ei wneud?

Siaradwch gyda’r pennaeth lles yn y lle cyntaf. Maen nhw wedyn yn gallu trefnu cymorth yn yr ysgol os ydych chi’n dymuno.

Rhannwch sut ydych chi’n teimlo gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt.

Dyma rai cysylltiadau defnyddiol hefyd i gael gwybodaeth a rhywun i siarad gyda nhw:

Llinellau cymorth (Sgyrsio gwê ar gael hefyd gyda rhai)

Childline     0800  1111

Papyrus      0800 068 4141

Meic           080880 23456

Samariaid  116 123

Gwasanaeth nyrsio 07312 263 262

Gwefannau gwybodaeth

Young Minds                  https://www.youngminds.org.uk/

Anna Freud                    https://www.annafreud.org/

Papyrus UK                   https://www.papyrus-uk.org/

Charlie Waller Trust       https://www.charliewaller.org/

Cymorth tu allan i’r ysgol 

Umbrella Cymru*   https://www.umbrellacymru.co.uk/ 

Stonewall               https://www.stonewall.org.uk/ 

The Mix                  https://www.themix.org.uk/ 

Kooth                      https://www.kooth.com/     (Rydych chi’n gallu trefnu cwnsela ar-lein)

*Gallu trefnu sesiynau yn yr ysgol.

Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili

Mae prosiect gyda nhw ar gyfer pobl ifanc LHDTC+. Mae sesiynau pob dydd Sadwrn olaf y mis – Llyfrgell y Coed Duon, NP12 1AJ.

Ble:  Yr Is Lawr/The Basement

Ebost:   yrislawr@caerffili.gov.uk     the basement@caerphilly.gov.uk     

Rhif ffôn: 01495 233007