YGCRh Logo

Hanes yr Ysgol

Ysgol cyfrwng Cymraeg yw Ysgol Gyfun Cwm Rhymni a leolir ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Sefydlwyd Cwm Rhymni ym 1981 gydag ychydig dros 100 o ddisgyblion ac ers hynny fe dyfwyd i dros 2000 o ddisgyblion. Hi yw’r unig ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y sir.

Lleolwyd Cwm Rhymni yn wreiddiol ar ddau safle, ysgol isaf ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8 yn Aberbargoed ac ysgol uchaf ar gyfer blynyddoedd 9 i 13 ym Margod. Ar ddiwedd y 1990au rhoddwyd caniatâd i’r ysgol godi adeilad newydd, ysblennydd yn Fleur-de-lys, ac agorwyd y safle hwnnw yn 2002. Pennaeth cyntaf Cwm Rhymni oedd Mr Huw Thomas, a olynwyd gan Mr Hefin Mathias yn 1995. Yn dilyn ymddeoliad Mr Mathias yn 2008, fe ddaeth Mr Owain ap Dafydd yn bennaeth. Ers ymddeoliad Mr Owain ap Dafydd yn 2020, Mr Matthew Webb yw pennaeth presennol yr ysgol.

Agorodd campws newydd ar gyfer Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn nhref Caerffili yn 2013 ar gyfer blynyddoedd 7 i 11, sef Safle’r Gwyndy, oherwydd y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Mae’r campws gwreiddiol yn Fleur-de-lys bellach yn cael ei alw’n Safle Gellihaf er mwyn osgoi unrhyw ddryswch rhwng y ddau safle.

Enwir llysoedd yr ysgol ar ôl seintiau Cymreig: Mabon, Cadog, Tudful a Sannan.

Llinell Amser

1981
Sefydlwyd YGCRh.

2002
Agorwyd safle Gellihaf.

2013
Agorwyd safle Y Gwyndy.

2020
Dechreuwyd Mr Webb fel Prifathro.

Follow us

Follow us on Instagram and see the
photos of our school life

[instagram-feed feed=1]