Depression
Mae iselder yn effeithio ar lawer o bobl ifanc. Bydd 1 allan o bob 10 person ifanc yn profi iselder, straen neu orbryder erbyn iddynt gyrraedd deunaw oed.
Os ydych chi’n profi iselder, mae’n bosib atal i’r sefyllfa fynd yn waeth wrth gael cymorth yn ddigon cynnar.
Mae llawer iawn o bobl ifanc yn gallu teimlo’n drist neu’n grac am gyfnodau byr ond os ydych chi wedi teimlo fel hyn am amser hir heb wella, mae’n bosib bod iselder arnoch chi. Efallai eich bod yn ddagreuol ac yn bryderus hefyd?
Does dim rheswm bob tro am yr iselder ond mae rhai pethau’n gallu sbarduno iselder.
Enghreifftiau o bethau sydd yn gallu achosi iselder:
- wedi colli rhywun ac yn ei chael hi’n anodd i ymdopi.
- yn mynd trwy gyfnod anodd a heb rannu hyn gyda rhywun.
- yn stryglo gydag ysgol.
- yn profi gwahaniaethu (discrimination) e.e. hiliaeth, rhywiaeth.
- teulu’n profi anawsterau ariannol.
Dyma arwyddion posib eraill o iselder:
- Osgoi sefyllfeydd cymdeithasol.
- Teimlo’n wag ac heb deimlad (numb).
- Stryglo i ganolbwyntio.
- Teimlo’n anobeithiol (hopeless/without hope).
- Hunan-feirniadol.
- Teimlo’n euog neu’n faich i eraill.
- Cwsg afreolaidd. Patrwm yn newid. Cadw oriau gwahanol i’r arfer.
- Dim egni.
- Teimlo’n flinedig o hyd.
- Hwyliau isel, gorbryderus a thrist.
- Dim archwaeth bwyd neu’n bwyta’n ormodol.
- Newid pwysau – colli pwysau neu roi pwysau ymlaen.
- Dim gwydnwch (resilience), methu adfer/bownsio’n ôl.
Os ydych chi’n meddwl eich bod yn profi iselder, mae’n hollbwysig i chi rannu sut ydych chi’n teimlo gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt e.e. Rhywun yn y teulu, ffrind, aelod o staff yn yr ysgol. Mae hefyd rhifau ffôn isod.
Mae llawer o gymorth ar gael. Mae’r pennaeth blwyddyn yn gallu dod o hyd i gymorth fydd yn eich helpu. Efallai, bydd e/hi yn eich atgyfeirio (refer) at y cwnselydd ysgol neu’r nyrs ysgol. Mae’n bosib i chi gael cymorth y cwnselydd neu’r nyrs heb gael caniatâd eich teulu a heb roi gwybod iddynt.
OND os mae pryder eich bod yn mynd i wneud niwed i’ch hun neu rywun arall, mae’n rhaid rhoi gwybod i’ch teulu.
Fe fydd yr ysgol yn cynghori eich bod yn mynd at y meddyg hefyd (GP).
Isod, mae gwefannau a chysylltiadau defnyddiol ar gyfer pobl ifanc.
Llinellau cymorth (Sgyrsio gwê ar gael hefyd gyda rhai)
Childline 0800 1111
Papyrus 0800 068 4141
Meic 080880 23456
Samariaid 116 123
Gwasanaeth nyrsio 07312 263 262
Gwefannau gwybodaeth
Young Minds https://www.youngminds.org.uk/
Anna Freud https://www.annafreud.org/
Papyrus UK https://www.papyrus-uk.org/
Charlie Waller Trust https://www.charliewaller.org/
Umbrella Cymru https://www.umbrellacymru.co.uk/
Cymorth tu allan i’r ysgol
The Mix https://www.themix.org.uk/
Kooth https://www.kooth.com/ (Mae’n bosib i chi drefnu cwnsela ar-lein eich hun)
Clipiau
https://www.youtube.com/watch?v=V-pwQQdCsTM&ab_channel=AnnaFreud
https://www.youtube.com/watch?v=dKU1OLrvOn4&ab_channel=PAPYRUSPreventionofYoungSuicide