Adrodd Aflonyddwch
NEWYDD - Sut i adrodd am bryder ynglŷn ag aflonyddu yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Gwyddom mai un o bryderon mwyaf pob rhiant a gofalwr yw’r ofn y gallai eu plentyn gael ei fwlio, ac oherwydd hyn rydym wedi gweithio’n galed iawn dros y blynyddoedd diwethaf i adeiladu systemau tynn a chadarn yn ein hysgol er mwyn addysgu disgyblion am y mater holl bwysig hwn.
Gweler ychydig o enghreifftiau o’n systemau yma:
1. Yn ystod pob egwyl a chinio mae gennym staff ar ddyletswydd yn gwisgo siacedi melyn yn crwydro’r adeilad, yr iard, y toiledau a’r grisiau.
2. Rydym wedi buddsoddi mewn rhaglenni lles ansawdd uchel (JIGSAWPSHE), sy’n ceisio addysgu hunan-barch a chyd-barch, ymreolaeth y corff, caniatâd, hawliau dynol ac iechyd meddwl ymysg materion eraill o bwys.
3. Cyflogwyd swyddog lles i ymdrin â phryderon lles uniongyrchol.
4. Mae yna gyfarfodydd dyddiol rhwng Penaethiaid Blwyddyn a Phenaethiaid Ysgol Isaf/Uchaf i drafod materion neu bryderon a godwyd ar y diwrnod hwnnw.
5. Mae gennym staff sydd wedi’u hyfforddi mewn systemau adferol sy’n cydweithio â disgyblion mewn ymgais i ail-ailadeiladu perthnasoedd.
6. Dwy ystafell Lles sydd wedi derbyn canmoliaeth mawr a reolir gan staff sydd wedi’u hyfforddi mewn trawma, megis nyrs gymwysedig ac arbenigwr mewn Seicoleg Plant.
7. Staff sydd a chyfrifoldeb ymddygiad sy’n cydlynu ymyriadau yn dilyn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu agweddau sy’n peri pryder.
8. Cyfarfodydd gyda rhieni neu ofalwyr cyn gynted â phosibl yn dilyn unrhyw bryder.
9. Cyfeiriadau E-bost Dynodedig i’n Penaethiaid Blynyddoedd er mwyn sicrhau nad oes angen i rieni aros ar y ffôn yn ystod dyddiau ysgol prysur.
10. Partneriaethau gyda chwmnïau fel ‘Bullies Out’ sy’n gweithio gyda grwpiau blwyddyn ar beryglon ac effaith barhaol bwlio.
11. Mae POB AELOD O STAFF wedi derbyn hyfforddiant mewn diogelu plant, niwroamrywiaeth, ymwybyddiaeth o hunanladdiad, cydnabod radicaleiddio, mynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol, cydraddoldeb a thegwch.
12. Aelodau allweddol o staff sydd wedi cael hyfforddiant mewn meysydd eraill fel cymorth LHDTC+ ac adnabod hiliaeth a rhywiaeth sefydliadol, (i enwi rhai yn unig).
13. Diwrnodau llesiant sy’n canolbwyntio ar feithrin hunan-barch, meddylfryd o dwf, perthnasoedd iach ac iechyd meddwl da.
Ein cam nesaf yw edrych ar sut y gall rhieni, gofalwyr a disgyblion adrodd ar unrhyw fath o aflonyddu gwahaniaethol trwy ein gwefan fel ein bod yn parhau i fireinio ein harfer a sicrhau bod diogelwch, lles a hapusrwydd ein plant BOB AMSER wrth wraidd ein gweledigaeth.
Os oes felly gennych unrhyw bryderon ynghylch achos o aflonyddu a ddiffinnir fel ‘pwysau ymosodol neu fygythiad’, yna gallwch gwblhau’r Ffurflen Google ddiogel sy’n cael ei monitro gan y Tîm Diogelu.
NID YW’R CYFRIF HWN YN CAEL EI FONITRO y tu allan i oriau ysgol. Os oes gennych bryder diogelu, dilynwch y protocol arferol o gysylltu â Gwasanaethau Plant (Diogelu) neu’r heddlu. Gallwch wneud adroddiad dienw i’r Gwasanaethau Plant neu’r Heddlu os teimlwch y byddai darparu eich manylion yn eich rhoi chi, y plentyn neu unrhyw un arall mewn perygl neu niwed.
Gallwch ddarganfod i ragor o wybodaeth am y protocol hwn ar frig Ffurflen Google.
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus. Rydym wir yn ei werthfawrogi. Gyda’n gilydd, fe fyddwn yn barhau i sicrhau bod diogelwch a lles wrth wraidd popeth rydym yn eu wneud yma yng Nghwm Rhymni.
Tracey Neale
Is-Bennaeth Cynorthwyol Lles