Ymdopi gyda straen gwaith

Mae pobl yn gallu teimlo straen pan mae gwaith, er enghraifft, yn mynd yn ormodol. Mae’n bosib i rywun deimlo o dan bwysau, pryderus, profi teimlad tynn, yn drist neu’n grac neu’n gymysgedd o’r teimladau yma.

Mae’r teimladau hyn yn hollol normal ond pan mae’r teimladau’n mynd yn ddwys am gyfnod mae’n bosib iddynt sbarduno anhawster iechyd meddwl.

Mae’n bwysig i rywun gael cymorth os mae straen yn mynd yn broblem.

 

Beth sydd yn gallu achosi straen? Dyma enghreifftiau:

  • Llawer o waith ysgol.
  • Paratoi at arholiadau.
  • Bwlio.
  • Dadleuon yn y cartref.
  • Salwch yn y teulu.
  • Trais yn y cartref.

Mae pobl wahanol yn ymdopi gyda straen mewn ffyrdd gwahanol – rhai yn ymdopi’n well na’i gilydd.

Mae digwyddiadau cadarnhaol yn gallu achosi straen hefyd e.e. dechrau coleg newydd neu’n mynd i’r brifysgol. Mae rhai pobl angen ychydig o straen er mwyn rhoi sbardun iddynt i gyflawni pethau.

 

Sgil effeithiau straen

Eto, mae straen yn gallu effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol. Mae’n effeithio ar deimladau ac ar y corff. Dyma rai enghreifftiau:

Y corff

  • Teimlo’n flinedig.
  • Anawsterau cysgu.
  • Diffyg archwaeth am fwyd (appetite).
  • Poen bol.
  • Pen tost.
  • Poenau yn y gwddwf a’r ysgwyddau.

Y teimladau

  • Teimlo’n drist.
  • Colli tymer, teimlo’n bigog.
  • Anhawster canolbwyntio a chadw’r meddwl ar waith.

 

Os ydych chi’n teimlo straen ac angen syniadau am sut i ymdopi, dyma rai strategaethau:

  • Rhannu’r broblem. Mae’n swnio’n syml ac mae yn! Ond mae’n gweithio.
  • Ysgrifennu rhestr o’r pethau sydd yn achosi straen. Gyda phob un, ysgrifennu beth sy’n bosib gwneud er mwyn taclo’r peth – mae’n help i roi trefn ar bethau yn y meddwl.
  • Cymryd hoi/seibiant a gwneud amser i wneud rhywbeth neis.
  • Gwneud rhywbeth ymlaciol e.e. bath neu fynd am dro. Dyma syniadau sydd ar wefan Anna Freud: https://www.annafreud.org/resources/children-and-young-peoples-wellbeing/self-care/ 
  • Ymarfer corff – mae’r ymennydd yn cynhyrchu endorffinau wrth wneud sydd yn gwneud i berson deimlo’n dda.
  • Sicrhau digon o gwsg a deiet iach. Mae dolen isod ar gyfer The Sleep Hub.

 

Cymorth ar gael

Pennaeth Blwyddyn (Efallai bydd y pennaeth blwyddyn yn meddwl byddai cymorth oddi wrth aelod o staff yn yr ystafell lles yn eich helpu)

Llinell gymorth nyrsio   Ffon: 07312 263 262

Gwasanaeth Cwnsela Ysgol   01443 866623/866624  schoolcounselling@caerphilly.gov.uk

Childline  0800 1111

Meic  Cymru   080880 23456 

Papyrus  0800 068 41 41

 

Gwefannau (gwybodaeth am sut i ymdopi gyda straen)

Charlie Waller Trust  https://www.charliewaller.org/ 

Young Minds   https://www.youngminds.org.uk/ 

Meddwl.org   https://meddwl.org/ 

Papyrus  https://www.papyrus-uk.org/ 

Anna Freud  https://www.annafreud.org/ 

Teen Sleep Hub  https://teensleephub.org.uk/ 

 

Cymorth arall gan gynnwys cwnsela ar-lein

The Mix   https://www.themix.org.uk/ 

Kooth      https://www.kooth.com/     (Mae’n bosib i chi drefnu cymorth eich hun gyda Kooth)