Iechyd Meddwl

Mae lles meddyliol a lles corfforol yn mynd law yn llaw. Mae un yn dibynnu ar y llall ac yn effeithio ar y llall. Mae lles meddyliol yn ymwneud â sut rydyn ni’n meddwl, teimlo ac ymddwyn.

Pan rydyn ni’n teimlo’n dda’n feddyliol, rydyn ni’n teimlo fel bod ni’n gallu cyflawni pethau pob dydd heb drafferth ac rydyn ni’n barod i wynebu heriau a phrofiadau newydd.

Mae yna bethau rydyn ni’n gallu gwneud er mwyn cadw’n iach yn feddyliol a magu gwydnwch (resilience). Mae dilyn y cynllun Pum Ffordd at Les yn bendant yn cynnal lles meddyliol ac mae hyn wedi ei brofi gyda llawer o waith ymchwil – mae adran arbennig am hyn i chi gael mwy o wybodaeth.

Mae hunan-ofal yn allweddol i gadw’n iach yn feddyliol hefyd. Mae adran wych ar wefan Anna Freud gyda syniadau am ffyrdd gwahanol o wneud: https://www.annafreud.org/resources/children-and-young-peoples-wellbeing/self-care/

A beth yw gwydnwch? Wel, gwydnwch yw sut mae rhywun yn delio gyda digwyddiadau anodd ac yn symud ymlaen ar eu hôl nhw. Mae’n sgìl mae unrhyw un yn gallu dysgu, ymarfer a gwella. Dros amser wedyn, mae person yn dod i wynebu heriau a sefyllfeydd heriol yn haws. Mae’n sgìl hollbwysig ar gyfer bywyd. Mae cwpl o glipiau isod am wydnwch:

https://www.youtube.com/watch?v=4RzHx5rw0f4

https://www.youtube.com/watch?v=1FDyiUEn8Vw 

Ar adegau mae person yn ffeindio bywyd yn anodd ac mae’n effeithio ar eu hiechyd meddwl. Mae hyn yn digwydd i lawer iawn o bobl o bob oed. Weithiau, mae’n hawdd adnabod beth sydd wedi achosi’r broblem ond weithiau dydy e ddim yn amlwg – mae hynny’n hollol normal hefyd.

Yn yr ardal yma, mae gwybodaeth am anawsterau iechyd meddwl cyffredin fydd o help i unrhyw un sydd yn profi problemau. Cofiwch, y cam mwyaf pwysig ydy RHANNU sut ydych chi’n teimlo gyda rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt. Gall hyn fod yn aelod o’r teulu, ffrind, athro neu drwy ffonio llinell gymorth. Mae rhannu’r baich/broblem yn gwneud i rywun deimlo’n well yn syth.