Cwricwlwm i Rymni - Ein Cwricwlwm Newydd Sbon

Croeso!

Mae’n bleser gennym eich gwahodd i bori drwy’r wybodaeth gryno ar dudalennau amrywiol y wefan hon, ynghyd â chyfres o fideos bywiog ac addysgiadol, fel eich bod yn deall pob agwedd o’n cwricwlwm newydd a bod gennych ffydd a hyder llwyr yn ein huchelgais ni ar gyfer eich plant chi, drwy Cwricwlwm i Rymni.

Cyflwyniad gan Mr Webb, y Pennaeth, am ein cwricwlwm newydd, uchelgeisiol, pwrpasol a chyffrous.

Cyflwyniad gan Mr McAvoy, Pennaeth Cynorthwyol, yn esbonio’r holl newidiadau i’r cwricwlwm yng Nghymru a sut mae’n effeithio eich plentyn.

Cyflwyniad gan Mr Conway, Pennaeth Cynorthwyol, yn esbonio’r trefniadau cynnydd ac asesu newydd ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8.

Cyflwyniad gan Mrs Roberts yn esbonio sut mae ein Prosiectau Mawr yn cyfrannu at y 3 haen o ddysgu sy’n sail i Gwricwlwm i Rymni.

Cyflwyniad gan Mr Jenkins, Pennaeth Cynorthwyol, yn amlinellu ein model Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan sicrhau bod pob plentyn yn cyfri.

Cliciwch ar y delweddau isod er mwyn darganfod mwy am beth, pam a sut y bydd disgyblion yn dysgu ym mhob un o’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad: