Anxiety

Cyflwyniad

Mae gorbryder (anxiety) yn deimlad naturiol mae pawb yn ei brofi ar adegau. Gorbryder yw beth rydyn ni’n teimlo wrth i’r corff ymateb yn naturiol i straen neu berygl. Mae pethau pob dydd yn gallu achosi pryder e.e. gwneud cyflwyniad o flaen eraill. Fel arfer, mae’r teimlad yn pasio ac mae’n bosib cario ymlaen gyda bywyd.

Mae’r ymateb “Ymladd neu Ffoi” (Fight or Flight) yn digwydd pan rydyn ni’n teimlo mewn perygl. Mae’r amygdala, y rhan o’r ymennydd sydd yn helpu person i feddwl yn glir, dysgu a datrys problemau, yn diffodd. Mae’n fwy anodd wedyn i reoli emosiynau. 

Sut mae gorbryder yn teimlo yn y corff? Rhai effeithiau….

  • Teimlo’n benysgafn (dizzy).
  • Coesau fel jeli.
  • Bol yn troi. 
  • Teimlo’n sâl.
  • Teimlo’n boeth ac yn chwyslyd (neu deimlo’n oer iawn)

https://www.youtube.com/watch?v=jEHwB1PG_-Q&ab_channel=Braive 

Felly, mae gorbryder yn ymateb naturiol ac yn gyffredin iawn. Ond, os mae gorbryder yn mynd ymlaen yn hir ac yn effeithio ar fywyd person, mae’n hollbwysig i siarad gyda rhywun amdano. Mae’n bosib dysgu strategaethau ar sut i reoli gorbryder. Mae hyn yn helpu person i wynebu heriau a byw bywyd llawn a hapus. 

Mae Cognitive Behavioural Therapy (CBT) yn ffordd dda o ddysgu sut i ddelio gyda gorbryder. Mae gwaith grŵp ar gael yn yr ysgol. Gofynnwch i’ch pennaeth blwyddyn os oes diddordeb gyda chi.

Pob gwyliau, mae’r Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS) yn rhedeg gweithdai. Mae un sydd yn ffocysu ar orbryder. Mae manylion yn mynd ar Classcharts ac mae posteri o gwmpas yr ysgol.

Mae sesiynau gyda’r Cwnselydd Ysgol yn gallu bod o help mawr hefyd. Mae’n bosib atgyfeirio (refer) eich hun at y cwnselydd. Mae taflenni gan y pennaeth blwyddyn, yn yr ystafell lles ac mewn mannau eraill o gwmpas y safle. Mae manylion isod os ydych chi eisiau cysylltu’n uniongyrchol eich hun.

Mae’r nyrs ysgol yn gallu siarad gydag unrhyw un sydd eisiau cymorth gyda gorbryder. Mae’n bosib trefnu i weld y nyrs trwy’r pennaeth blwyddyn neu atgyfeirio’ch hun trwy ofyn i aelod o’r prif swyddfa i roi’ch enw yn llyfr y nyrs. Mae hefyd rhif ffôn ar gyfer llinell gymorth y gwasanaeth nyrsio – 07312 263 262.

Mae Melo.Cymru yn cynnig gwybodaeth ar eu gwefan ac yn darparu sesiynau rhithiol:

https://www.melo.cymru/cy/topic/gorbryder/ 

Mae defnyddio’r anadl yn ffordd dda iawn o reoli gorbryder ac yn rhywbeth mae person yn gallu gwneud yn dawel heb fod eraill yn gwybod. Mae’r clip yma’n esbonio pam bod yr anadl yn effeithiol:

https://www.youtube.com/watch?v=FbJJUEndG7U&ab_channel=TheSanctuaryDublin7 

Dyma glip am sut i ddefnyddio anadlu bocs:

https://www.youtube.com/watch?v=JYytiS0ymZg&t=2s&ab_channel=PookyKnightsmithMentalHealth

 

Mae ymarfer sefydlogi (grounding exercise) yn effeithiol iawn ac mae’n bosib gwneud hyn mewn llawer o sefyllfeydd gwahanol heb i unrhyw un sylwi e.e. mewn arholiad. Dyma un clip sydd yn esbonio sut i’w wneud:

https://www.youtube.com/watch?v=30VMIEmA114&t=17s&ab_channel=ThePartnershipInEducation

 

Mae arfer Meddwlgarwch (Mindfulness) yn bendant yn help mawr i reoli gorbryder. 

https://www.youtube.com/watch?v=T5ut2NYdAEQ&t=190s&ab_channel=dotb

 

Mae rhai pobl yn ffeindio apiau’n ddefnyddiol. Mae sawl un ar y dudalen yma:

https://www.camhs-resources.co.uk/apps-1  

   

Dyma wefannau gyda mwy o wybodaeth am orbryder:

Young Minds  

https://www.youngminds.org.uk/young-person/mental-health-conditions/anxiety/

Meddwl.org

https://meddwl.org/pwnc/gorbryder/

Mental Health Foundation

https://www.mentalhealth.org.uk/explore-mental-health/a-z-topics/anxiety

 

Cymorth tu allan i’r ysgol

The Mix   https://www.themix.org.uk/ 

Kooth      https://www.kooth.com/