Grief, Loss and Bereavement
Un o glipiau Child Bereavement UK. Mae llawer o adnoddau gwych ar eu gwefan.
Mae galar (grief) yn broses mae rhywun yn mynd trwyddi wrth arfer gyda cholled. Profedigaeth (bereavement) yw’r profiad o golli rhywun sy’n bwysig iddynt.
Mae profedigaeth yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol ac yn digwydd ar gyfradd wahanol. Does dim patrwm, amser na threfn benodol. Mae profiad pawb o brofedigaeth yn unigryw iddyn nhw.
Mae colled a phrofedigaeth yn brofiad poenus a thrist. Pan mae person ifanc yn colli rhywun, maen nhw’n gallu teimlo amryw o emosiynau ac yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol. Mae’n bosib iddynt deimlo amryw o emosiynau gan gynnwys dryswch, ofn, unigrwydd, euogrwydd, poen a dicter.
Os ydych chi wedi colli rhywun ac yn stryglo i ymdopi, mae’n bwysig eich bod yn gofyn am gymorth oddi wrth oedolyn. Mae’r oedolyn yna yn gallu gwrando arnoch chi a threfnu cymorth arbenigol os ydych chi’n dymuno hynny.
Felly, pan rydych chi’n barod, beth am siarad gydag oedolyn yn yr ysgol rydych chi’n teimlo’n gyfforddus gyda nhw ac yn ymddiried ynddynt. Yn ddelfrydol, y pennaeth blwyddyn fyddai’n syniad da ond efallai bod athro arall rydych chi’n tynnu ymlaen yn dda gyda nhw? Maen nhw wedyn yn gallu siarad gyda’r pennaeth blwyddyn. Does dim angen siarad wyneb yn wyneb os nac ydych chi’n gyfforddus i wneud – mae danfon ebost yn gallu bod yn haws weithiau.
Mae llawer o opsiynau wedyn o ran cymorth rydyn ni, fel ysgol, yn gallu trefnu er mwyn eich helpu trwy’r amser anodd yma. Enghraifft o hyn ydy’r Unicorn Service sydd yn rhan o Hosbis Dewi Sant. Mae rhywun o’r Unicorn Service yn galllu dod i’r ysgol neu i’ch cartref a’ch cefnogi. Maen nhw wedi hyfforddi’n arbennig i weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi colli rhywun sy’n arbennig iddynt. Mae pobl ifanc sydd wedi cael cymorth gan yr Unicorn Service yn dweud bod hyn yn help mawr iddynt.
Weithiau, mae aelod o’r teulu’n sâl iawn ac mae hyn yn gallu effeithio ar berson ifanc ac maen nhw’n ffeindio’r sefyllfa a’r teimladau’n anodd iawn i ddelio gyda nhw. Os mae hyn yn digwydd i chi, siaradwch gyda rhywun er mwyn rhannu’r teimladau yna. Fe fydd e’n eich helpu, yn bendant.
Mae mathau eraill o golli sydd yn gallu bod yn anodd iawn i berson ifanc fynd trwyddyn nhw e.e. Colli anifail anwes neu golli cartref. Hefyd, mae’n gallu bod yn anodd iawn i berson ifanc os fydd rhieni yn gwahanu. Cofiwch siarad gyda rhywun os ydych chi’n cael trafferth i ymdopi.
Asiantaethau a Gwefannau
Child Bereavement UK https://www.childbereavementuk.org/ 0800 02 888 40
Grief Encounter https://www.griefencounter.org.uk/ 08088 020 111
Winston’s Wish https://www.winstonswish.org/ 08088 020 021
Cruse https://www.cruse.org.uk/get-support/supporting-children-and-young-people/ 08088 081 677
Unicorn Service https://stdavidshospicecare.org/our-services/support-for-children
Young Minds https://www.youngminds.org.uk/