Ymdopi gyda straen arholiadau
Mae cyfnodau arholiadau yn gallu achosi straen dwys. (Mae gwybodaeth yn yr adran ‘Ymdopi gyda straen gwaith’ hefyd). Felly, ar ben gwaith arferol, mae’r cyfnodau arholiadau yn gallu creu mwy o straen i lawer ac mae hyn yn gallu arwain at broblemau iechyd lles a chorfforol.
Mae pobl ifanc yn gallu pryderu am faint o waith sydd gyda nhw, am dan-gyflawni neu am y dyfodol.
Pan mae rhywun o dan bwysau, mae’r corff yn ymateb trwy gynhyrchu adrenalin sydd yn rhan o’r ymateb ‘ymladd neu ffoi’. Dyma glip sy’n esbonio:
https://www.youtube.com/watch?v=jEHwB1PG_-Q&ab_channel=Braive
Mae’r ymateb yma’n hollol naturiol ond mae gormod o adrenalin yn gallu arwain at sgil-effeithiau diflas ac anodd fel teimlo’n sâl (eisiau taflu lan), pendro a chur pen. Hefyd, mae straen dwys yn gallu arwain at broblemau cysgu, colli archwaeth (appetite) a gwneud i rywun deimlo’n grac, yn anhapus ac yn anobeithiol. I rai pobl ifanc, mae meddwl am ‘fethu’ yn teimlo fel diwedd y byd.
Os ydych chi’n teimlo fel hyn, beth gallwch chi ei wneud?
- POB gwyliau mae CAMHS (Child and Adolescent Mental Health Services) yn rhedeg gweithdy rhithiol am sut i ymdopi gyda straen arholiadau. Mae’r wybodaeth yn mynd allan at bob un yn yr ysgol. Beth am gofrestru?
- Darllen gwybodaeth ar wefannau. Mae’n help i ddeall mwy ond hefyd i sylweddoli bod llawer iawn o bobl ifanc yn teimlo’r un fath! Dydych chi ddim ar ben eich hun.
- Ceisio aros yn iach yn feddyliol er mwyn osgoi teimlo straen yn y lle cyntaf. Mae hyn yn gallu cynnwys dilyn y Pum Ffordd at Les (mae adran ar hyn), dilyn deiet iach a chael digon o gwsg (mae adran ar hyn hefyd!).
- Defnyddio ymarferion andadlu fel ffordd o reoli straen. Mae’n ffaith bod rheoli’r anadl yn bendant yn gweithio! Dyma glip sy’n esbonio sut ac hefyd clip am sut i wneud un ymarfer anadlu.
Ian Robertson: Neuroscience and the Breath
https://www.youtube.com/watch?v=FbJJUEndG7U&ab_channel=TheSanctuaryDublin7
Pooky Knightsmith: Box Breathing
https://www.youtube.com/watch?v=JYytiS0ymZg&t=2s&ab_channel=PookyKnightsmithMentalHealth
Mae’r canlynol yn hollbwysig hefyd i wneud cyn arholiadau:
- Trefnu gwaith yn ôl y ffordd sy’n eich siwtio chi.
- Adolygu am gyfnodau byr a chymryd toriadau rheolaidd.
- Rhannu gofidiau gyda rhywun rydych chi’n yn ymddiried ynddynt.
- Bwyta’n iach, hydradu’n rheolaidd a chael ymarfer corff. Mae ymarfer corff yn helpu i ryddhau tensiwn.
- Mae angen digon o orffwys a chwsg.
- Ymarferion anadlu.
- Meddwlgarwch. Dyma un ymarfer https://www.youtube.com/watch?v=T5ut2NYdAEQ&t=190s&ab_channel=dotb
- Cymdeithasu – mae bywyd tu allan i’r ysgol yn hollbwysig ac mae cynnal hyn yn helpu i roi persbectif ar fywyd a sicrhau cydbwysedd.
- Hunan-ofal. Mae’n bwysig gwneud amser i wneud pethau rydych chi’n mwynhau ac yn ffeindio’n ymlaciol. Mae rhai syniadau yma ar wefan Anna Freud:
https://www.annafreud.org/resources/children-and-young-peoples-wellbeing/self-care/
Beth am ar ôl arholiadau?
- Cofiwch, os nad ydych chi’n cael y radd roeddech chi’n gobeithio amdani, dydych chi ddim yn fethiant. Dydy canlyniadau arholiadau ddim yn eich diffinio chi a gweddill eich bywyd. Mae wastad cyfle arall i wneud pethau mewn bywyd. Mae sawl llwybr i gyrraedd yr un lle. Neu mae’n bosib ac yn well i gymryd llwybr arall.
- Siaradwch gydag aelod o staff rydych chi’n tynnu ymlaen gyda nhw am opsiynau eraill os fydd angen e.e. ailsefyll arholiad, apelio gradd, ystyried cwrs/gyrfa arall. Cofiwch bod prentisiaethau’n opsiynau gwych ac, yn aml, yn well!
- Os ydych chi’n siomedig neu’n pryderu am eich canlyniadau, gwnewch yn siwr eich bod yn trafod hyn gyda rhywun – peidiwch gadw popeth tu fewn.
- Mae’n hollbwysig ffocysu ar beth rydych chi wedi cyflawni yn barod ac mae mwy i ddod!
Cymorth ar gael os ydych chi’n stryglo gyda’ch iechyd meddwl yn ystod y tymor arholiadau:
Llinell gymorth nyrsio Ffon: 07312 263 262
Childline 0800 1111
Meic Cymru 080880 23456
Papyrus 0800 068 41 41
Gwefannau
Charlie Waller Trust https://www.charliewaller.org/
Young Minds https://www.youngminds.org.uk/
Meddwl.org https://meddwl.org/
Papyrus https://www.papyrus-uk.org/
Anna Freud https://www.annafreud.org/
Teen Sleep Hub https://teensleephub.org.uk/
Cymorth arall ar gael gan gynnwys cwnsela ar-lein
The Mix https://www.themix.org.uk/
Kooth https://www.kooth.com/ (Rydych chi fel person ifanc yn gallu trefnu cwnsela eich hun)
Mae rhai pobl yn ffeindio apiau’n ddefnyddiol. Mae sawl un ar y dudalen yma: