Body Image
Os ydych chi’n stryglo gyda delwedd corfforol, mae gwybodaeth yma fydd o gymorth i chi. Delwedd corfforol yw sut mae rhywun yn gweld a theimlo am ei hun yn gorfforol. Mae hefyd yn cynnwys sut mae rhywun yn credu mae eraill yn eu gweld nhw. Dyw e ddim o reidrwydd am y corff o gwbl ond agweddau eraill.
Mae un arolwg gan The Mental Health Foundation wedi darganfod bod 35% o bobl ifanc rhwng 13-19 oed yn datgan bod delwedd eu cyrff yn gwneud iddynt pryderu’n aml neu drwy’r amser. Mae bechgyn a merched yn gallu profi anawsterau gyda’r un arolwg yn dangos bod 45% o ferched gydag anhawster a 25% o’r bechgyn oedd yn rhan o’r arolwg.
Os ydych chi’n stryglo gyda delwedd corff, mae’n bosib eich bod yn pryderu am y canlynol:
- Cymharu eich hun gydag eraill a delweddau chi yn eu gweld ar gyfryngau cymdeithasol.
- Stryglo i dderbyn a charu eich hun.
- Teimlo bod siâp eich corff ddim yn cael ei gynrychioli ar gyfryngau cymdeithasol.
- Cuddio’r corff oherwydd cywilydd.
- Stryglo i ddod o hyd i ddillad addas yn enwedig os oes anabledd gyda chi.
- Cael eich camddeall yn enwedig os fydd pobl yn gwneud rhagdybiaethau (preconceptions) e.e. os ydych mewn cadair olwyn.
- Teimlo nad ydych yn ddigon deniadol.
- Mae marc geni, creithiau llawdriniaeth neu acne yn gallu effeithio ar sut mae rhywun yn teimlo am ei hun.
- Teimlo bod y corff ddim yn cyd-fynd â rhyw.
Mae rhai pethau’n gallu cael effaith negyddol hefyd ar y ffordd mae rhywun yn meddwl am ei hun gan gynnwys e.e. Sylwadau gan eraill, hysbysebion, dim dewis eang o ddillad sydd yn ffitio pob maint a siâp yn y siopau neu ar-lein, cyfryngau cymdeithasol yn hyrwyddo’r siâp a maint ‘perffaith/delfrydol”.
Sut mae hyn i gyd yn gallu gwneud i chi deimlo?
- Effeithio ar fwyta h.y. bwyta llai/mwy/afreolaidd.
- Trafferth gwisgo a mynd allan.
- Effeithio ar gymdeithasu gyda ffrindiau.
Rydych chi’n gallu teimlo fel hyn unrhyw bryd ond mae’n fwy cyffredin yn ystod y glasoed – dyna pryd mae hormonau yn gallu gwneud i rywun deimlo’n fwy ymwybodol o sut maent yn edrych a sut mae eraill yn edrych.
Mae pawb yn profi’r teimladau yma ond maen nhw’n gallu effeithio ar rai’n waeth ac yn achosi gor-bryder. Mae hyn wedyn yn gallu arwain at:
- Hunan-werth isel.
- Gor-bryder.
- Depression
- Anawsterau bwyta.
- Hel meddyliau am ddelwedd.
Felly beth ydych chi’n gallu gwneud?
Ewch gyda’r pennaeth lles yn gyntaf a gweld pa fath o gymorth sydd ar gael e.e. mae CAMHS yn trefnu gwaith grŵp o fewn yr ysgol ar ddelwedd corff, rydych chi’n gallu cwrdd gyda’r nyrs ac mae hi’n gallu rhoi cefnogaeth emosiynol ond hefyd meddygol i chi e.e. os mae effaith wedi bod ar eich patrwm bwyta.
Mae’n hollbwysig i chi:
- fod yn garedig i’ch hun a pheidio cymharu’ch hun gydag eraill.
- beidio dilyn cyfrifon sydd yn gwneud i chi deimlo’n wael ond, yn hytrach, dilyn rhai sydd yn gwneud i chi deimlo’n dda.
- ffocysu ar y rhannu o’ch corff rydych yn eu hoffi.
- dreulio amser gyda phobl sydd yn gwneud i chi deimlo’n dda am eich hun.
- siarad gyda rhywun rydych chi yn ymddiried ynddynt.
- siarad gyda’r meddyg.
Positifrwydd Corff (Body Positivity)
Ymgyrch yw hwn i hyrwyddo pob math o siâp a maint corff ar gyfryngau cymdeithasol, teledu, mewn ffilmiau ac yn y blaen. Mae’n bwysig i bob un ohonon ni’n dod i dderbyn ein cyrff a’r ffordd maen nhw’n edrych. Mae hyn yn gwneud i rywun deimlo’n well, hapusach, mwy hyderus a chyfforddus. Mae hyn yn gallu cymryd amser, mae’n broses.
Gwefannau a chysylltiadau defnyddiol:
Young Minds – tudalennau priodol https://www.youngminds.org.uk/young-person/coping-with-life/body-image/
https://www.youngminds.org.uk/young-person/blog/how-to-cope-if-social-media-affects-your-body-image/
Mentally Healthy Schools https://www.mentallyhealthyschools.org.uk/
Charlie Waller Trust
Gwasanaeth nyrsio 07312 263 262 (os fydd person ifanc eisiau siarad gyda rhywun yn gyfrinachol).
Clip:
https://www.youtube.com/watch?v=QNQCwcjCWE0&ab_channel=ReachOutAustralia