Darllen

Pam darllen?
  • Allwedd i ehangu geirfa a gwella cystrawen.
  • Annog hunan-hyder ac annibyniaeth.
  • Datblygu empathi.
  • Tanio’r dychymyg.
  • Ymarfer corff i’r ymenydd.
  • Adloniant.
  • Gwella canolbwyntiad a’r gallu i ffocysu.
  • Gwella llythrennedd.
  • Gwella cwsg.

Darllen am 20 munud y dydd = 3,600 munud mewn blwyddyn ysgol = 60 awr 

Darllen am   5 munud y dydd =    900 munud mewn blwyddyn ysgol = 15 awr

Darllen am   1 munud y dydd =     180 munud mewn blwyddyn ysgol =  3 awr

Mae’r canlyniadau’r dweud y cyfan!

Beth am gymryd mantais o’r hyn sydd gan eich llyfrgel leol i’w gynnig?

Ar hyn o byrd, mae 18 llyfrgell ar draws Sir Caerffili. Mae’r llyfrgelloedd hyn yn cynnig yr offer sydd angen arnoch i greu, dysgu ac archwilio. Meant yn cynnig mynediad i lyfrau a gwasanaethau, ac yn darparu awyrgylch cynnes a chyfeillgar.

Benthyg llyfrau

Yn eich llyfrgell leol, fe gewch chi:

  • fenthyg llyfrau i’w darllen a dychwelyd.
  • fenthyg E-lyfrau a llyfrau sain trwy’r ap BorrowBox.
  • gadw neu archebu llyfrau i’w benthyg, darllen a dychwelyd.
Gwasanaethau eraill

Tra yno, gallwch:

  • gymryd rhan mewn llu o weithgareddau amrywiol yn ystod gwyliau’r ysgol ac ar benwythnosau.
  • ddefnyddio’r cyfrifiaduron i bori’r we, cwblhau gwaith ymchwil a gwaith cartref, a mwy, am ddim!

Neu beth am ddod o hyd i gornel clud i ddarllen eich llyfr yn nhawelwch a heddwch y llyfrgell? Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am ymuno ac am ddigwyddiadau yma:

Llyfrgelloedd | Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pa lyfrau i'w darllen?

Gallwch ddod o hyd i adolygiadau llyfrau darllen Cymraeg sy’n addas ar gyfer oedran eich plentyn chi yma: Adra | Sonamlyfra