Cysylltwch â ni

Cyfathrebu gyda’r Ysgol

Credwn yn gryf bod cyfathrebu cyson rhwng yr ysgol a’r cartref yn hanfodol er mwyn i ddisgyblion wneud cynnydd; cynnydd academaidd yn ogystal â chynnydd personol. Gyda hyn mewn golwg, hoffem ei gwneud mor hawdd â phosib i rieni gysylltu â’r ysgol. Prif gyswllt ar gyfer rhieni yw drwy ein tîm Lles, sydd yn cynnnwys Miss Megan Morris (Gweinyddwr Lles), Penaethiaid Blwyddyn a Phenaethiaid Cyfnod Allweddol. Rydym ar gael i drafod unrhyw anawsterau neu bryderon a all godi, sydd yn ymwneud â lles neu gynnydd ein disgyblion.
Yr Ysgol Isaf: Blynyddoedd 7, 8 a 9
Yr Ysgol Uchaf: Blynyddoedd 10 ac 11
Y Chweched Dosbarth: Blynyddoedd 12 ac 13 (Chweched Dosbarth)

Mae’n bwysig bod unrhyw fath o gyfathrebu rhwng yr ysgol a rhieni yn digwydd mewn ffordd gwrtais a phroffesiynol ar bob adeg. Ni fydd yr ysgol yn derbyn unrhyw achosion o anghwrteisi, ymddygiad ymosodol neu wrthgymdeithasol tuag at unrhyw aelod o staff.

Ebostio’r Ysgol

Y ffordd rwydda’ o gyfathrebu yw trwy ebost. Mae gennym gyfrif e-bost dynodedig ar gyfer pob grŵp blwyddyn fel bod rhieni yn gallu e-bostio’r tîm lles, yn dibynnu ar ba flwyddyn y mae eich plentyn:

Blwyddyn 6
Blwyddyn6@ygcwmrhymni.net
Blwyddyn 7
Blwyddyn7Gwyndy@ygcwmrhymni.net Blwyddyn7GelliHaf@ygcwmrhymni.net
Blwyddyn 8
Blwyddyn8Gwyndy@ygcwmrhymni.net Blwyddyn8GelliHaf@ygcwmrhymni.net
Blwyddyn 9
Blwyddyn9Gwyndy@ygcwmrhymni.net Blwyddyn9GelliHaf@ygcwmrhymni.net
Blwyddyn 10
Blwyddyn10Gwyndy@ygcwmrhymni.net Blwyddyn10GelliHaf@ygcwmrhymni.net
Blwyddyn 11
Blwyddyn11Gwyndy@ygcwmrhymni.net Blwyddyn11GelliHaf@ygcwmrhymni.net
Blwyddyn 12
Blwyddyn12@ygcwmrhymni.net
Blwyddyn 13
Blwyddyn13@ygcwmrhymni.net
Anghenion Dysgu Ychwanegol
ADY@ygcwmrhymni.net

Caiff y cyfrifon e-bost yma eu monitro gan Benaethiaid Blwyddyn, Penaethiaid Cyfnod Allweddol yn ogystal ag aelodau o’r Uwch Dîm Arwain. Caiff eich neges ei hanfon ymlaen at y person mwyaf addas i ddelio â’chpryder/ymholiad yn unol â’n Polisi Cyfathrebu. Cofiwch gynnwys enw eich plentyn, pa safle (Gelli Haf neu’rGwyndy) a chymaint o fanylion â phosib.

Yn ogystal, mae gennym ychydig yn rhagor o gyfrifon ebost sydd yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i rieni:

Os ydych yn cael anhawster defnyddio ClassCharts
ClassCharts@ygcwmrhymni.net
Unrhyw ymholiadau am ddefnyddio ParentPay
ParentPay@ygcwmrhymni.net
Unrhyw gyfathrebu yn ymwneud â’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon
Teulu@ygcwmrhymni.net

Dylai cyfeiriad e-bost cyffredinol yr ysgol (gweinyddol@ygcwmrhymni.net)  gael ei ddefnyddio ar gyfer ymholiadau gweinyddol yn unig, megis:
• Asiantaethau allanol (e.e. gwasnaethau cymdeithasol, asiantaethau staff addysgu)
• Cyfathrebu rhwng ysgolion (e.e gofynion trosglwyddo ysgol, gofynion ar gyfer ffeiliau CT)
• Cyfathrebu/hysbysiadau Awdurod Lleol
• Ymholiadau gwerthu

Ni ddylai rhieni ddefnyddio’r cyfrif hwn. Dylai pob dull arall o gyfathrebu, gan gynnwys negeseuon ynghylch disgyblion gael eu hanfon drwy’r cyfrif grŵp blwyddyn perthnasol.

Ffonio’r Ysgol

Os hoffech drafod unnrhyw fater yn ymwneud â chynnydd neu les eich plentyn dylech siarad â’n Gweinyddwr Lles, Miss Megan Morris, i gychwyn. Cysylltwch â’n Prif Swyddfa yn y dull arferol, os gwelwch yn dda (01443 875227), dewiswch eich iaith ddewisol, ac yna opsiwn 3. Bydd Miss Morris ar gael i dderbyn eich galwadau rhwng 7:45 a 3:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Rhan o rôl Miss Morris yw cysylltu ag aelodau o gymuned yr ysgol, gan gynnwys asiantaethau allanol. Y mae’n cwrdd yn aml gydag aelodau o’r tîm Lles, ac yn chwarae rhan integredig wrth gyfrannu at bolisïau’r ysgol. Bydd Miss Morris yn gallu delio â’r rhan fwyaf o ymholiadau a phryderon, ond yn gallu eich trosglwyddo i aelod arall o’r tîm Lles os oes angen.  Y mae ein tîm Lles yn cynnwys Penaethiad Blwyddyn, Penaethiaid Cyfnod Allweddol yn ogystal â staff sydd yn gweithio yn yr Ystafelloedd Lles.  Byddwch yn ystyriol, os gwewlwch yn dda, gan bod gan bron bob aelod o’n tîm Lles ymrwymiadau addysgu, a ddim ar gael ar bob adeg i gymryd galwadau ffôn. Ble fo’n bosib, bydd Miss Morris yn cymryd eich manylion ac yn trefnu bod aelod o’r tîm Lles yn eich ffonio pan fo’n gyfleus i chi.

Ymweld â’r Ysgol

Croesawn rieni’n gynes mor aml â phosib; yn wir, credwn bod hyn yn rhan annatod o’r broses o gefnogi cynnydd a lles disgybl. Gofynnwn yn garedig bod rhieni yn cysylltu â’r ysgol cyn ymweld, er mwyn gwneud apwyntiad. Y mae hyn fel ein bod yn gallu sicrhau eich bod yn gallu cwrdd â’r person gall ddelio orau â’ch ymholiad neu bryder, fel y gallwn ganiatáu digon o amser i gwrdd â chi, a fel y gallwn ddod o hyd i unrhyw wybodaeth sydd ei hangen cyn eich ymweliad. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i aelodau o’r tîm Lles siarad gydag athrawon eich plentyn, er mwyn paratoi at eich ymweliad.

cropped-YGCRh_logo_icon-1.png

CYFEIRIAD
Gellihaf Campus, Gelli Haf Road, Blackwood, NP12 3JQ
Y Gwyndy Campus, Pontygwindy Road, Caerphilly, CF83 3HG

FFÔN
01443 875227