Yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i archwilio disgyblaethau daearyddiaeth, hanes, CGM (crefydd, gwerthoedd a moeseg), ac astudiaethau busnes a chymdeithasol. Byddant hefyd yn cael eu cyflwyno i ddisgyblaethau atodol eraill, megis economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth a chymdeithaseg. Trwy’r disgyblaethau yma, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu’n ddinasyddion egwyddorol a gwybodus. Mewn gwersi, bydd ein dysgwyr yn datblygu chwilfrydedd o’r byd o’u cwmpas trwy archwilio ac ymchwilio i gyd-destunau cyfoes a hanesyddol; ystyried gwahanol safbwyntiau ar ddigwyddiadau a phrofiadau dynol er mwyn hybu dealltwriaeth o amrywiaeth foesegol a diwylliannol; gwerthfawrogi amrywiaeth yn y byd naturiol a sut mae’r amgylchedd a gweithredoedd dyn yn rhyngweithio; deall cymhlethdod cymdeithasau dynol a sut maent yn cael eu siapo gan wahanol weithredoedd a chredoau; ac o ganlyniad, bydd ein dysgwyr yn dod yn ddinasyddion gwybodus a hunanymwybodol, sy’n gallu mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu dynoliaeth gan weithredu’n ystyriol a moesegol.
Drwy glicio ar y dolenni isod, fe welwch drosolwg manwl o’n themâu ar gyfer pob cysyniad o’r Maes Dyniaethau dros y flwyddyn. Dyma grynodeb o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes a gwybodaeth am y gwaith sydd i’w wneud ym mhob cysyniad. Mae hyn yn cynnwys beth fyddwn yn dysgu, pam y byddwn yn dysgu hynny a sut y bydd dysgu’n digwydd. Er mwyn eich helpu chi fel rhieni a gwarcheidwaid, fe welwch restr o eirfa allweddol i gyfoethogi sgiliau iaith a chyfathrebu eich plentyn. Mae yna hefyd wybodaeth i chi ar sut i gefnogi addysg eich plentyn yn y Maes
Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn cael mynediad i drosolwg pob thema a mwynhewch bori drwy ein cynlluniau gwaith newydd sbon ar gyfer y Dyniaethau. Diolch yn fawr.