Egwyddorion yr Ysgol
Fel ysgol ceisiwn lynu wrth yr egwyddorion canlynol
1. Meithrin personoliaeth lawn yr unigolyn drwy gynnig profiadau a fydd yn datblygu’r meddwl, y corff, yr ysbryd, y teimladau a’r dychymyg.
2. Rhoi cyfle i chwilfrydedd cynhenid y plentyn ddatblygu meddwl effro, ymholgar, a’r gallu i ddadlau yn rhesymegol, i gloriannu, ac i benderfynu drosto ef/drosti hi ei hun.
3. Hybu parch at eraill, at werthoedd crefyddol, ysbrydol a moesol, a meithrin goddefgarwch tuag at gredoau ac agweddau gwahanol, boed gymdeithasol, economaidd neu wleidyddol.
4. Helpu’r disgybl i fagu agweddau cadarnhaol, i ddysgu medrau, i gael gwybodaeth ac i ddyfnhau dealltwriaeth a fydd yn berthnasol i’w fywyd ar ôl gadael yr ysgol, yn ei waith, gartref, ac yn ei hamdden, a hynny mewn byd tra chyfnewidiol.
5. Gofalu bod pob disgybl yn arfer ei iaith, yn bennaf y Gymraeg, yn llafar ac yn ysgrifenedig, mewn rhaglen lawn o weithgareddau cymdeithasol, allgyrsiol, yn ogystal ag yn y gwersi, a thrwy hynny ddysgu cyfathrebu yn effeithiol.
6. Helpu’r disgybl i werthfawrogi campau a dyheadau dyn mewn celfyddyd, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, technoleg a llenyddiaeth.
7. Ennyn balchder pob disgybl yn ei wreiddiau, yn ei fro ac yn ei wlad, parch at iaith y wlad honno, a theyrngarwch i’r gymdeithas y mae’n rhan annatod ohoni.
8. Annog y disgybl i ymroi yn frwdfrydig hyd eithaf ei allu mewn ffordd gyfrifol a hunan ddisgybledig.
9. Paratoi’r disgybl i wasanaethu ac arwain cymdeithas yn ôl ei allu a’i dalent.