BorrowBox

Mae gwasanaeth Borrowbox yn cynnig nifer helaeth o e-lyfrau ac e-lyfrau llafar i chi eu lawrlwytho ar eich cyfrifiadur a’r rhan fwyaf o ddyfeisiau symudol i ddarllen a gwrando arnynt.

Mae llyfrau Cymraeg a Saesneg ar gael, ffuglen a ffeithiol, a llyfrau i oedolion, pobl ifanc a phlant.

Ar gael am ddim gyda’ch aelodaeth llyfrgell.

borrow_box_banner
BorrowboxInstructions_cy
Beth yw Borrowbox?

Mae’r gwasanaeth BorrowBox yn blatfform digidol sy’n cynnig teitlau e-lyfrau ac e-lyfrau sain i ddefnyddwyr llyfrgell gyhoeddus i’w lawrlwytho a’u darllen neu wrando arnynt. Ar hyn o bryd mae dros 36,000 o deitlau ar gael i ddefnyddwyr llyfrgelloedd yng Nghymru, sy’n cynnwys llyfrau ffuglen a ffeithiol i oedolion, pobl ifanc a phlant mewn dros 35 o ieithoedd.

Sut ydych chi’n ei ddefnyddio?

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi fod wedi’i leoli yn y DU a bod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell cyhoeddus yng Nghymru. Os ydych eisoes yn aelod o’r llyfrgell, gallwch naill ai gofrestru gyda Borrowbox drwy:

  1. Mynd i’r ddolen ar wefan eich awdurdod llyfrgell leol, gallwch gael y manylion o ‘Dod o hyd i Lyfrgell’ ar dudalen flaen y wefan yma.
  2. Neu, gallwch osod Ap Borrowbox ar eich dyfais, a chofrestru yno.

Bydd angen rhif PIN arnoch o’ch llyfrgell leol i gofrestru gyda Borrowbox (gallwch ymweld, e-bostio neu ffonio’r llyfrgell i gael y PIN). Lawrlwythwch yr ap nawr o’r App Store a Google Play a dechrau benthyca, lawrlwytho a mwynhau e-lyfrau ac e-lyfrau llafar heddiw.

Ydy e’ ar gael yn y Gymraeg?

Mae gwefan ac ap BorrowBox eich llyfrgell bellach ar gael yn y Gymraeg.

I newid i’r fersiwn Gymraeg o wefan BorrowBox, dewiswch ‘Cymraeg’ o’r gwymplen opsiwn iaith ar ochr dde uchaf y sgrin.

I newid i’r fersiwn Cymraeg o’r ap BorrowBox, defnyddiwch y ddolen ‘Iaith’ sydd i’w chael yng ‘Ngosodiadau’ yr ap. (Ar gyfer dyfeisiau Apple, efallai bydd angen i chi sicrhau eich bod wedi gosod cymorth Cymraeg yn gyntaf sy’n gyflym ac yn syml i’w wneud. Dilynwch y cyfarwyddiadau yma.)

Nodwch os mai’r Gymraeg yw’r iaith ddiofyn ar eich dyfais eisoes, bydd ap BorrowBox a’r wefan yn newid i’r Gymraeg yn awtomatig.

Ddim yn aelod o lyfrgell? Yna dilynwch y dolenni ar ‘Dod o hyd i Lyfrgell’ ar dudalen flaen y wefan yma.