{"id":2953,"date":"2024-03-06T13:39:06","date_gmt":"2024-03-06T13:39:06","guid":{"rendered":"https:\/\/cwmrhymni.com\/?page_id=2953"},"modified":"2024-03-13T14:37:57","modified_gmt":"2024-03-13T14:37:57","slug":"colled-galar-a-phrofedigaeth","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cwmrhymni.com\/cy\/colled-galar-a-phrofedigaeth\/","title":{"rendered":"Colled, Galar a Phrofedigaeth"},"content":{"rendered":"<div class=\"wpb-content-wrapper\"><div class=\"vc_row wpb_row vc_row-fluid\"><div class=\"wpb_column vc_column_container vc_col-sm-12 sc_layouts_column_icons_position_left\"><div class=\"vc_column-inner\"><div class=\"wpb_wrapper\"><div id=\"sc_title_334107532\"\r\n\t\tclass=\"sc_title color_style_dark sc_title_default jhh-h4-dark\"><h4 class=\"sc_item_title sc_title_title sc_align_center sc_item_title_style_default sc_item_title_tag\">Grief, Loss and Bereavement<\/h4><\/div><!-- \/.sc_title --><div class=\"vc_empty_space  height_tiny\"   style=\"height: 32px\"><span class=\"vc_empty_space_inner\"><\/span><\/div>\n\t<div class=\"wpb_text_column wpb_content_element\" >\n\t\t<div class=\"wpb_wrapper\">\n\t\t\t<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Un o glipiau Child Bereavement UK. Mae llawer o adnoddau gwych ar eu gwefan.<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><a href=\"https:\/\/youtu.be\/wmzy6fRLcCU\"><span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/youtu.be\/wmzy6fRLcCU<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">\u00a0<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Mae galar (grief) yn broses mae rhywun yn mynd trwyddi wrth arfer gyda cholled. Profedigaeth (bereavement) yw\u2019r profiad o golli rhywun sy\u2019n bwysig iddynt.<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Mae profedigaeth yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol ac yn digwydd ar gyfradd wahanol. Does dim patrwm, amser na threfn benodol. Mae profiad pawb o brofedigaeth yn unigryw iddyn nhw.<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Mae colled a phrofedigaeth yn brofiad poenus a thrist. Pan mae person ifanc yn colli rhywun, maen nhw\u2019n gallu teimlo amryw o emosiynau ac yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol. Mae\u2019n bosib iddynt deimlo amryw o emosiynau gan gynnwys dryswch, ofn, unigrwydd, euogrwydd, poen a dicter.<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Os ydych chi wedi colli rhywun ac yn stryglo i ymdopi, mae\u2019n bwysig eich bod yn gofyn am gymorth oddi wrth oedolyn. Mae\u2019r oedolyn yna yn gallu gwrando arnoch chi a threfnu cymorth arbenigol os ydych chi\u2019n dymuno hynny.<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Felly, pan rydych chi\u2019n barod, beth am siarad gydag oedolyn yn yr ysgol rydych chi\u2019n teimlo\u2019n gyfforddus gyda nhw ac yn ymddiried ynddynt. Yn ddelfrydol, y pennaeth blwyddyn fyddai\u2019n syniad da ond efallai bod athro arall rydych chi\u2019n tynnu ymlaen yn dda gyda nhw? Maen nhw wedyn yn gallu siarad gyda\u2019r pennaeth blwyddyn. Does dim angen siarad wyneb yn wyneb os nac ydych chi\u2019n gyfforddus i wneud &#8211; mae danfon ebost yn gallu bod yn haws weithiau.<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Mae llawer o opsiynau wedyn o ran cymorth rydyn ni, fel ysgol, yn gallu trefnu er mwyn eich helpu trwy\u2019r amser anodd yma.\u00a0 Enghraifft o hyn ydy\u2019r Unicorn Service sydd yn rhan o Hosbis Dewi Sant. Mae rhywun o\u2019r Unicorn Service yn galllu dod i\u2019r ysgol neu i\u2019ch cartref a\u2019ch cefnogi. Maen nhw wedi hyfforddi\u2019n arbennig i weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi colli rhywun sy\u2019n arbennig iddynt. Mae pobl ifanc sydd wedi cael cymorth gan yr Unicorn Service yn dweud bod hyn yn help mawr iddynt.<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Weithiau, mae aelod o\u2019r teulu\u2019n s\u00e2l iawn ac mae hyn yn gallu effeithio ar berson ifanc ac maen nhw\u2019n ffeindio\u2019r sefyllfa a\u2019r teimladau\u2019n anodd iawn i ddelio gyda nhw. Os mae hyn yn digwydd i chi, siaradwch gyda rhywun er mwyn rhannu\u2019r teimladau yna. Fe fydd e\u2019n eich helpu, yn bendant.<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Mae mathau eraill o golli sydd yn gallu bod yn anodd iawn i berson ifanc fynd trwyddyn nhw e.e. Colli anifail anwes neu golli cartref. Hefyd, mae\u2019n gallu bod yn anodd iawn i berson ifanc os fydd rhieni yn gwahanu. Cofiwch siarad gyda rhywun os ydych chi\u2019n cael trafferth i ymdopi.<\/span><\/big><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><big><b>Asiantaethau a Gwefannau\u00a0<\/b><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Child Bereavement UK\u00a0 <\/span><a href=\"https:\/\/www.childbereavementuk.org\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/www.childbereavementuk.org\/<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">\u00a0 \u00a0 \u00a0 0800 02 888 40<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Grief Encounter \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 <\/span><a href=\"https:\/\/www.griefencounter.org.uk\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/www.griefencounter.org.uk\/<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 08088 020 111<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Winston\u2019s Wish\u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 <\/span><a href=\"https:\/\/www.winstonswish.org\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/www.winstonswish.org\/<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 08088 020 021<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Cruse \u00a0 <\/span><a href=\"https:\/\/www.cruse.org.uk\/get-support\/supporting-children-and-young-people\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/www.cruse.org.uk\/get-support\/supporting-children-and-young-people\/<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\"> \u00a0 08088\u00a0 081 677<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Unicorn Service \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 <\/span><a href=\"https:\/\/stdavidshospicecare.org\/our-services\/support-for-children\"><span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/stdavidshospicecare.org\/our-services\/support-for-children<\/span><\/a><span style=\"font-weight: 400;\">\u00a0<\/span><\/big><\/p>\n<p><big><span style=\"font-weight: 400;\">Young Minds\u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 <\/span><a href=\"https:\/\/www.youngminds.org.uk\/\"><span style=\"font-weight: 400;\">https:\/\/www.youngminds.org.uk\/<\/span><\/a><\/big><\/p>\n\n\t\t<\/div>\n\t<\/div>\n<\/div><\/div><\/div><\/div>\n<\/div>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Colled, Galar a Phrofedigaeth Un o glipiau Child Bereavement UK. Mae llawer o adnoddau gwych ar eu gwefan. https:\/\/youtu.be\/wmzy6fRLcCU\u00a0 Mae galar (grief) yn broses mae rhywun yn mynd trwyddi wrth arfer gyda cholled. Profedigaeth (bereavement) yw\u2019r profiad o golli rhywun sy\u2019n bwysig iddynt. Mae profedigaeth yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol ac yn digwydd ar gyfradd wahanol. Does dim&hellip;","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-2953","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cwmrhymni.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2953","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cwmrhymni.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cwmrhymni.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwmrhymni.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cwmrhymni.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2953"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/cwmrhymni.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2953\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3005,"href":"https:\/\/cwmrhymni.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2953\/revisions\/3005"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cwmrhymni.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2953"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}