Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i archwilio disgyblaethau Ffiseg, Cemeg, Bioleg, Dylunio a Thechnoleg a Thechnolegau Digidol. Trwy’r disgyblaethau hyn, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol. Mewn gwersi, bydd ein dysgwyr yn archwilio Gwyddoniaeth a Thechnoleg i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ymarferol, datblygu eu gallu i ofyn cwestiynau ystyrlon a llunio barn wybodus sy’n effeithio ar eu hymddygiad eu hunain. Byddant hefyd yn deall sut mae dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas, yn ogystal â chydnabod mai cyfrifo yw sylfaen ein byd digidol.

Drwy glicio ar y dolenni isod, fe welwch drosolwg manwl o’n themâu ar gyfer pob disgyblaeth o Wyddoniaeth a Thechnoleg dros dri thymor. Dyma grynodeb o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes ynghyd â gwybodaeth am y gwaith sydd i’w wneud ym mhob disgyblaeth. Mae hyn yn cynnwys beth sy’n cael ei addysgu, pam ei fod yn cael ei addysgu a sut y bydd dysgu’n digwydd. Er mwyn eich helpu chi fel rhieni a gwarcheidwaid, fe welwch restr o eirfa allweddol er mwyn cyfoethogi sgiliau iaith a chyfathrebu eich plentyn. Mae yna hefyd wybodaeth i chi ar sut i gefnogi addysg eich plentyn yn y Maes.

Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn cael mynediad i drosolwg pob tymor a mwynhewch bori drwy ein cynlluniau gwaith newydd sbon ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Diolch yn fawr.