Yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i astudio Rhif, Algebra, Geometreg ac Ystadegau. Yn y gwersi, bydd y dysgwyr yn defnyddio y system rif i gynrychioli a chymharu’r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau. Byddant yn defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythur perthnasoedd mathemategol wrth astudio algebra. Bydd gwaith geometreg yn canolbwyntio ar berthnasoedd sy’n ymwneud â siâp, gofod a safle a byddant yn defnyddio a dadansoddi ystadegau er mwyn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.
Drwy glicio ar y dolenni isod, fe welwch drosolwg manwl ar gyfer pob tymor yn ein maes sy’n crynhoi yr hyn sy’n bwysig i’w ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys beth sy’n cael ei addysgu, pam ei fod yn cael ei addysgu a sut y bydd dysgu’n digwydd. Er mwyn eich helpu chi fel rhieni a gwarcheidwaid, fe welwch restr o eirfa allweddol i gyfoethogi sgiliau iaith a chyfathrebu eich plentyn. Mae yna hefyd wybodaeth i chi ar sut i gefnogi addysg eich plentyn yn y Maes hwn.
Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn cael mynediad i drosolwg pob tymor a mwynhewch bori drwy ein cynlluniau gwaith newydd sbon ar gyfer Mathemateg a Rhifedd. Diolch yn fawr.