Yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i archwilio disgyblaethau Cymraeg, Saesneg ac Ieithoedd Rhyngwladol. Trwy’r disgyblaethau hyn, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau ym mhob iaith, wrth ddysgu gwerthfawrogi bod ieithoedd yn ein cysylltu, gan ddysgu bod ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n cwmpas, byddant hefyd yn dysgu bod mynegi eu hunain trwy iaith yn allweddol i gyfathrebu wrth werthfawrogi sut mae llenyddiaeth yn tanio dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.
Drwy glicio ar y dolenni isod, fe welwch drosolwg manwl o’n themâu ar gyfer pob disgyblaeth o Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu dros dri thymor. Dyma grynodeb o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes ynghyd â gwybodaeth am y gwaith sydd i’w wneud ym mhob disgyblaeth. Mae hyn yn cynnwys beth sy’n cael ei addysgu, pam ei fod yn cael ei addysgu a sut y bydd dysgu’n digwydd. Er mwyn eich helpu chi fel rhieni a gwarcheidwaid, fe welwch restr o eirfa allweddol i gyfoethogi sgiliau iaith a chyfathrebu eich plentyn. Mae yna hefyd wybodaeth i chi ar sut i gefnogi addysg eich plentyn yn y Maes.
Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn cael mynediad i drosolwg pob tymor a mwynhewch bori drwy ein cynlluniau gwaith newydd sbon ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Diolch yn fawr.