Yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i archwilio gwahanol agweddau ar iechyd a lles, gan hyrwyddo eu lles corfforol, meddyliol ac emosiynol. Byddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar wahanol ddeimensiynau lles, megis addysg gorfforol, iechyd meddwl, datblygiad personol, a dewisiadau bywyd iach. Bydd hyn yn sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at gwricwlwm sydd nid yn unig yn berthnasol iddynt, ond a fydd hefyd yn datblygu eu gallu fel dysgwyr i orsgyn heriau bywyd. Trwy’r profiadau hyn, bydd ein dysgwyr yn datblygu ymdeimlad o chwilfrydedd, wrth feithrin eu galluoedd creadigol i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a’u lles eu hunain.
Drwy glicio ar y dolenni isod, fe welwch drosolwg manwl o’n themâu ar gyfer pob disgyblaeth. Dyma grynodeb o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes ynghyd â gwybodaeth am y gwaith sydd i’w wneud ym mhob disgyblaeth. Mae hyn yn cynnwys beth sy’n cael ei addysgu, pam ei fod yn cael ei ddysgu a sut y bydd dysgu’n digwydd. Er mwyn eich helpu chi fel rhieni a gwarcheidwaid, fe welwch restr o eirfa allweddol i gyfoethogi sgiliau iaith a chyfathrebu eich plentyn. Mae yna hefyd wybodaeth i chi ar sut i gefnogi addysg eich plentyn yn y Maes.
Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn cael mynediad i drosolwg pob tymor a mwynhewch bori drwy ein cynlluniau gwaith newydd sbon ar gyfer Iechyd a Lles. Diolch yn fawr.