Yn y Maes Dysgu a Phrofiad hwn, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i archwilio disgyblaethau cerddoriaeth, drama, celf, tecstilau, ffilm, dawns a chyfryngau digidol. Trwy’r disgyblaethau hyn, bydd ein dysgwyr yn cael cyfle i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol. Mewn gwersi, bydd ein dysgwyr yn archwilio’r celfyddydau mynegiannol i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth artistig; ymateb a myfyrio, fel artist ac aelod o gynulleidfa, ac yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth a ddysgir er mwyn creu ac i fynegi eu hunain.
Drwy glicio ar y dolenni isod, fe welwch drosolwg manwl o’n themâu ar gyfer pob disgyblaeth o’r Celfyddydau Mynegiannol dros dri thymor. Dyma grynodeb o’r hyn sy’n bwysig yn Maes ynghyd â gwybodaeth am y gwaith sydd i’w wneud ym mhob disgyblaeth. Mae hyn yn cynnwys beth sy’n cael ei addysgu, pam ei fod yn cael ei addysgu a sut y bydd dysgu’n digwydd. Er mwyn eich helpu chi fel rhieni a gwarcheidwaid, fe welwch restr o eirfa allweddol i gyfoethogi sgiliau iaith a chyfathrebu eich plentyn. Mae yna hefyd wybodaeth i chi ar sut i gefnogi addysg eich plentyn yn y Maes hwn.
Cliciwch ar y dolenni isod er mwyn cael mynediad i drosolwg pob tymor a mwynhewch bori drwy ein cynlluniau gwaith newydd sbon ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol. Diolch yn fawr.