Nôl I’r 80au

Mae’n bleser gennym eich hysbysu am ein cynhyrchiad diwedd blwyddyn o’r sioe gerdd Nôl I’r 80au ar Ddydd Llun a dydd Mawrth 17 ac 18 Gorffennaf,

Mae bron i gant o ddisgyblion wedi bod wrthi’n brysur yn ymarfer dros yr wythnosau diwethaf er mwyn eich diddanu mewn gwledd o sioe fydd yn eich tywys yn ol i’r ddegawd liwgar, ddichwaeth honno! Gallwn sicrhau y byddwch ar eich traed erbyn diwedd y noson,  yn dawnsio i glasuron megis Wake Me Up Before You Go Go, Kids In America a Footloose.

Fe’ch gwahoddir i gyrraedd yr ysgol (safle Gelli Haf) unrhyw bryd ar ol 5 i weld ffrwyth gwaith disgyblion blwyddyn 7 sydd wedi gweithio’n ddiwyd yn paratoi rhestr o gerddoriaeth ac  sydd wedi trawsnewid ein coridorau nol i’r 80au – gallwch hyd yn oed fwynhau profiad theatrig ymdrochol i’ch cludo nol i wers wyddonaieth yn yr 80au mewn hen labordy.

Yn ogystal, mae disgyblion blwyddyn 7 wedi paratoi stondinau lle gallwch brynu rhaglen y sioe, nwyddau o’r 80au a losin. Bydd bar yn gwerthu gwin, cwrw a diodydd meddal ar agor cyn y perfformiad ac yn ystod yr egwyl – arian parod yn unig y gellir ei ddefnyddio ar y noson.

Bydd tocynnau ar gyfer y sioe ar werth yn swyddfa’r ysgol ar y ddau safle o ddydd Llun 3 Gorffennaf ymlaen. Pris tocynnau yw £10 ar gyfer oedolion a £5 ar gyfer plant – gellir prynu tocyn teulu ar gyfer 2 oedolyn a 2 blentyn am bris gostyngol o £25.  Rydym yn awyddus i bawb gael cyfle i fwynhau’r sioe ac felly os yw pris y tocynnau yn peri pryder, cysylltwch a’r ysgol yn syth. Bydd y tocynnau wedi eu rhifo ac felly gallwch fwynhau y gweithgareddau cyn y sioe ac ymlacio yn y bar heb orfod ciwio am eich sedd!

Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi’r sioe neu os allech ddarparu gwobr ar gyfer y raffl,  neu os oes gennych unrhyw hen  ddillad o’r 80au nad ydych eu hangen bellach, cysylltwch â’r swyddfa. Byddwn yn mawr werthfawrogi unrhyw gyfraniadau.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu chi i gyd ac mae croeso i unrhyw un  sy’n dymuno wisgo lan  –  felly ewch i chwilio am eich leg warmers a’ch shell suits a dewch i ymuno a ni am noson fythgofiadwy o chwethin!